English
24/7/365

Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru

Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned

Yn cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol a cefnogaeth

Ffon di-dal

0800 132 737

Neu techstiwch help i

81066

Coronafeirws

gofalu am eich lles meddwl

Rydym ni’n byw drwy gyfnod anodd ac mae’n bwysicach nag erioed eich bod yn gofalu am eich iechyd a’ch lles meddwl.

Sut ydych chi'n teimlo? A ydych wedi meddwl am y pethau y gallech eu gwneud i gadw'n iach?

Fel golchi dwylo yn well i amddiffyn eich iechyd corfforol, mae pethau y gallwch eu gwneud i amddiffyn eich llesiant meddyliol.

Isod cewch awgrymiadau, cyngor a syniadau i’ch helpu i ofalu amdanoch chi’ch hun a phobl eraill

Ydych chi’n berson ifanc sy’n chwilio am gyngor? Cymerwch gip olwg ar ein tudalen ar gyfer plant a phobl ifanc.
 


Pam mae lles meddwl yn bwysig?
Mae’n bwysig gofalu amdanoch chi’ch hun a’r ffordd rydych chi’n teimlo
Darllenwch fwy am les meddwl

Sut i ofalu am eich lles meddwl
Mae yna lawer o bethau y gallwch eu gwneud i wella eich lles
Canfyddwch gynghorion ar gyfer gofalu am eich lles

Sut i gael cymorth
Mae gwasanaethau i’w cael i’ch cynorthwyo chi a phobl eraill y gallech fod yn pryderu amdanynt
Canfyddwch y cymorth sydd ei angen arnoch chi

 

Pam mae fy lles meddwl yn bwysig?

Rydym ni'n byw drwy gyfnod anodd ac mae’n bwysicach nag erioed eich bod yn gofalu am eich iechyd a’ch lles meddwl.

Rydym ni'n teimlo llu o emosiynau cryf fel gofid, gorbryder, ofn, dicter, cariad, balchder a thristwch. Gallai rhai o’r teimladau hyn fod yn anodd eu hegluro neu’u henwi. Gallant fynd a dod mewn tonnau.

Mae'n iawn ein bod yn cael y teimladau hyn, gan fod pethau yn wahanol ac yn ansicr - felly ceisiwch beidio â barnu eich hun o ran sut ydych chi’n teimlo.

Gall y teimladau hyn wneud i ni deimlo’n flinedig, efallai y byddwch yn ymateb yn wahanol, a gallech ei chael hi’n anodd canolbwyntio neu gofio pethau.

Sut i ofalu am eich lles meddwl

Pa gamau allwch chi eu cymryd i ofalu am eich lles meddwl? Yn union fel golchi’ch dwylo yn well er mwyn diogelu eich iechyd corfforol, mae yna bethau y gallwch eu gwneud i ddiogelu eich iechyd meddwl.

Bydd methu cyfarfod â theulu a ffrindiau, neu fethu mynd i’r lleoedd yr ydych yn eu mwynhau fel arfer, yn anodd i bawb.

Trwy ddilyn y cyngor diweddaraf, rydych chi’n gwneud eich rhan i warchod y bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein teuluoedd a’n cymunedau.

Gall fod angen i chi ddysgu ffyrdd newydd o wneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau. Gall fod angen i chi ddysgu sgiliau newydd a chanfod ffyrdd newydd o ofalu am eich lles meddwl.

Ceisiwch ganfod beth allai eich helpu chi. Gallai’r rhain gynnwys:

Dyma rai dolenni at adnoddau ar-lein a alla fod yn ddefnyddiol i chi:


Sefydliad Iechyd Meddwl
Gwybodaeth am sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod yr achosion o’r Coronafeirws. Mae’n cynnwys cynghorion ar iechyd a lles meddwl cyffredinol, cyflogwyr a chyflogeion, a gofalu amdanoch chi’ch hun wrth i chi aros gartref.

Mind Cymru
Gwybodaeth am coronafeirws a’ch lles. Mae’n cynnwys cynghorion ar gynllunio ar gyfer aros gartref a gofalu am eich iechyd a lles meddwl.

Meddwl.org
Gwybodaeth am coronafeirws a’ch lles. Mae’n cynnwys cynghorion ar gynllunio ar gyfer aros gartref a gofalu am eich iechyd a lles meddwl.

Sut i gael cymorth

There are services to support you and others you may be worried about. Talking about your worries and problems can make things easier.

Speak to someone if you're not okay

Y wybodaeth ddiweddaraf am COVID 19

Cofiwch fynd at ffynonellau gwybodaeth dibynadwy bob tro:

Mae’r wybodaeth hon wedi’i choladu fel rhan o’r gwaith sy’n cael ei arwain gan y Grŵp Digwyddiadau Iechyd Meddwl - Covid 19 yng Nghymru.  Sicrheir ansawdd y deunydd drwy’r trefniadau hyn. Mae hyn yn cynnwys galw ar gyngor arbenigol gan banel o arbenigwyr, clinigwyr a’r sector gwirfoddol, lle bo angen. Mae’r holl ddeunydd a dolenni a ddarperir ar safle’r wefan wedi bod dan reolaeth y trefniadau hyn.