Plant a Phobl Ifanc
Efallai bod y byd yn teimlo’n lle rhyfedd iawn ar hyn o bryd oherwydd y Coronafeirws.
Efallai eich bod chi’n teimlo llawer o bethau gwahanol, a does dim byd o’i le ar hynny.
Y newyddion da yw bod yna bethau y gallwch chi eu gwneud i’ch helpu i deimlo’n well.
Gweithgareddau Llonyddu
Diwallu anghenion sylfaenol
Dysgu sut i ailfeddwl
Gwneud i’ch hunan deimlo’n dda
A hefyd, mae pobl ar gael y gallwch chi siarad â nhw dros y ffôn neu ar-lein, os oes angen.
Gweithgareddau Llonyddu
Mae’n syniad da gwneud pethau sy’n eich helpu chi i ymlacio a theimlo’n fwy tawel eich meddwl bob dydd, yn hytrach na phan rydych yn ‘drist’ neu’n ‘aflonydd’ yn unig.
- Meddyliwch am y pethau y gallwch chi eu gwneud i fod yn garedig â chi’ch hun – beth sy’n eich helpu chi i deimlo’n dawel eich meddwl?
- Mae pobl yn hoffi ymlacio mewn ffyrdd gwahanol. Beth am roi cynnig ar wneud ymarferion ymlacio ar YouTube? Mae’n lle da i gychwyn.
- Mae llawer o bobl yn hoffi Meddylgarwch, ac mae ymchwil wedi profi ei fod yn ffordd dda o ofalu amdanoch chi a’ch teimladau.
- Mae rhai pobl o’r farn mai siarad â phobl eraill am eu pryderon yw’r ffordd orau o deimlo’n fwy llonydd.
Diwallu anghenion sylfaenol
Mae hefyd yn bwysig meddwl am eich anghenion sylfaenol, sef y pethau sydd eu hangen ar eich corff i gadw’n iach ac, o ganlyniad, sy’n eich gwneud i chi deimlo’n well.
- Cynllunio’ch diwrnod – yn yr un ffordd mae gan ysgolion a cholegau amserlenni, gallwch chi wneud un ar gyfer y cyfnod hwn. Gwisgwch yn barod ar gyfer y diwrnod!
- Arferion cysgu – efallai bod hi’n anodd cadw at amserlen gysgu dda gan nad ydych chi’n gorfod mynd i’r ysgol, ond ceisiwch wneud hynny, os oes modd.
- Cadw’n heini – mae ymarfer corff yn fuddiol i’ch corff a’ch meddwl. Gallwch wneud ymarferion gyda Joe Wicks.
- • Tanwydd i’r corff – mae’r hyn rydych chi’n ei fwyta a’i yfed yn cael effaith fawr ar y ffordd rydych chi’n teimlo.
Dysgu sut i ailfeddwl
Mae ein meddyliau yn dda iawn am bryderu - pan mae pethau yn wahanol neu’n ansicr, gall ein meddyliau fynd yn sownd.
- Ceisiwch osgoi sïon a darllenwch wefannau y gallwch ymddiried ynddynt yn unig. Mae newyddion y BBC a Ffeil yn dda o ran darparu newyddion am COVID-19.
- Sut mae cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i chi deimlo? Efallai eu bod yn gwneud i chi deimlo’n well neu’n waeth, felly cadwch lygad ar yr amser rydych yn ei dreulio’n syllu ar y sgrin.
- Canolbwyntiwch eich meddyliau arnoch chi a’r hyn y gallwch chi ei wneud bod dydd. Peidiwch â theimlo’n euog os nad ydych yn cadw at eich cynlluniau yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.
- Gwnewch rywbeth a fydd yn tynnu’ch sylw – rhywbeth rydych chi’n dda am ei wneud neu’n ei fwynhau.
Gwneud i’ch hunan deimlo’n dda
Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i deimlo’n dda, hyd yn oed ar adegau anodd fel hwn. Mae chwerthin a rhannu jocs yn dda, yn enwedig pan mae pethau’n anodd ac yn wahanol.
- Sgwrsiwch gyda ffrind sy’n gwneud i chi deimlo’n dda.
- Chwiliwch am y pethau cadarnhaol. Bob dydd, meddyliwch am dri peth sydd wedi mynd yn dda.
- Meddyliwch am y pethau sy’n eich gwneud chi’n hapus, a gwnewch fwy ohonynt.
- Os yw’r tywydd yn braf, ewch allan er mwyn mwynhau’r awyr iach.
Cyngor arall ar-lein
-
Sut i ymdopi â'r 'normal' newydd
Blog sy’n cynnwys cyngor gan y seicolegydd, Liz Gregory, ar sut i ymdopi â’r ‘normal’ newydd. -
Blogiau YoungMinds
Llawer o flogiau sy’n darparu cymorth i bobl ifanc am y ffordd maen nhw’n teimlo oherwydd y Coronafeirws. -
Mind Cymru
Gwybodaeth i bobl ifanc sy’n poeni am y Coronafeirws ac eisiau gwybod sut i ymdopi â’r newidiadau yn eu bywydau. -
Comisiynydd Plant Cymru: Coronafeirws – Hwb Gwybodaeth i Blant a Theuluoedd
Cyngor cyffredinol, syniadau a gweithgareddau i’ch cadw chi’n brysur. -
Ap MeeTwo
Gofod diogel i bobl ifanc yn eu harddegau i drafod unrhyw beth sy’n effeithio ar eu bywydau. -
Pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc
The Young Person’s mental health toolkit is a set of digital resources aimed at children and young people aged 11-25. The resources are all low-level support for mental health and emotional wellbeing, organised into 6 categories; Coronavirus & Wellbeing, Keeping Healthy, Anxiety, Low mood, Loss, and Crisis. It is hosted on the free to use Hwb educational platform and can be accessed by anybody, no account needed.
Siaradwch â rhywun
-
Llinell Gymorth C.A.L.L.
Llinell gymorth iechyd meddwl ddynodedig i Gymru. Ffoniwch 0800 132 737 neu tecstiwch y gair ‘help’ at 81066. -
MEIC
Cymorth i blant a phobl ifanc (hyd at 25 oed) rhwng 8am a chanol nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gysylltu â nhw am ddim trwy ffonio 080880 23456, testun 84001, neu drwy anfon neges uniongyrchol trwy’r wefan. -
Childline
Ffoniwch 0800 1111 am ddim, anfonwch neges e-bost neu ewch i’r wefan i gael sgwrs ar-lein. -
PAPYRUS
Cymdeithas atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc. HOPELINEUK 0800 068 4141 (dydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 10pm, a 2pm i 10pm ar benwythnosau a gwyliau banc).